Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Ionawr 2022
Amser:
09.05 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12574
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Samuel Kurtz AS (yn lle Tom Giffard AS) Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Jason Thomas, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Andrew Gwatkin, Llywodraeth Cymru Paula Walsh, Llywodraeth Cymru Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Bethan Webb, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Nia Moss (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Tom Giffard AS ac roedd Samuel Kurtz AS yn bresennol fel dirprwy. Dymunodd y Pwyllgor wellhad buan i Tom Giffard ac roedd yr aelodau’n edrych ymlaen at ei groesawu’n ôl yn fuan.
1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Heledd Fychan AS, Carolyn Thomas AS a Samuel Kurtz fuddiannau perthnasol.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Diwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi a’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip.
2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Cysylltiadau rhyngwladol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog.
3.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu.
4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Y Gymraeg
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y materion a godwyd yn y cyfarfod.
8 Adolygu amserlen y pwyllgor a’i gylchoedd gwaith
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i drafod ei ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes y tu allan i’r cyfarfod hwn.